Mae hi’n gyntaf o Rhagfyr heddiw. Mae’r flwyddyn wedi hedfan, ag am flwyddyn anodd a rhyfedd! Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu archebion a cefnogaeth dros y flwyddyn yma..mae wedi bod yn anhygoel ag rwyf wedi gorfod dysgu lot am werthu ar lein eleni. Mae’r wefan wedi gweld gwerthiant anhygoel a llawer o eitemau yn gwerthu allan yn amal! dwi bellach wedi gallu ail stocio popeth arno..ag bydd cyfle i chi archebu gynai hyd at 17/12/2020.
Rwyf hefyd yn edrych mlaen i rhaglen ‘Y stiwdio grefftau’ gychwyn ar s4c. Rwyf wedi bod yn gweithio yn galed am fis yn creu ar gyfer her y sioe yma a fydd werth ei wylio. Mae’r rhaglen cynta yn cychwyn heno 9pm, a fyddai ar yr un olaf 15ed o Rhagfyr.
Well it’s the first of December today. This year has flown by and what a weird and difficult year it’s been. I would like to thank everyone this year for their support and orders, it’s been amazing and I’ve had to learn how to sell online and force myself to understand my website better. The website has seen record sales and items going out of stock regularly. I’m pleased to say that everything is back in stock now, and you have a chance to order up to the 16th of December.
I’m also excited about the new program on s4c starting tonight “Y stiwdio grefftau” – the craft studio. I’ve been making and working hard for a month towards this program’s challenge and it will be well worth a watch. The first program starts tonight at 9pm- I’ll be on the last one 15th December.