Rwy’n grefftwraig sydd yn creu gwrthrychau ar y ledd. Mae popeth wedi ei greu â llaw.
Mae fy ngwaith yn syml, lliwgar ag addurniadol. Fy mwriad yw dathlu prydferthwch naturiol y pren drwy ychwanegu rhywfaint o liw i ddenu y llygaid i’w ffurf syml.
Mae modd prynu unrhyw wrthrych drwy’r siop ar fy ngwefan. mae eitemau achlysuron arbennig yn cael ei wneud i’r archeb.
Mae postio am ddim. Mae amser postio a phrosesu rhwng 5-7 diwrnod ar hyn o bryd. Ar gyfer comisiynau arbennig a syniadau am anrhegion cysylltwch a mi drwy’r wefan a byddaf fwy na parod i drafod eich syniadau gyda chi.
Archebion olaf 5ed o Rhagfyr ar gyfer archebion dolig 2024.
*gan fy mod yn feichiog a efo problemau iechyd ni allaf durnio rwan tan haf 2025. Mae lefelau stoc yn isel – ymddiheuriadau am hyn*