Description
Mae’r stolion wedi ei ysbrydoli gan stôl a wnaeth fy Nhaid i fy Mam. Roedd yn Saer Coed ac yn arfer creu stolion i ffermwyr yr ardal.
Rwyf wastad wedi bod eisiau creu fresiwn modern o’r un a wnaeth o, gyda fy edau lliw fel addurn ar y coesau.
Mae opsiwn i bersonoleiddio’r stolion- gallwch roi neges neu gerdd o’ch dewis ar wyneb y set. Mae hyn ond ar gael i stolion ‘Ffawydd’ neu ‘Sapele’ gan nad yw derw ac onnen yn ysgythru’n dda. Cysylltwch â mi i drafod.